Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 22 Medi 2021
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(20 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd:
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy a’r cynnydd cydamserol mewn prisiau ynni ar ddefnyddwyr Cymru?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Amseroedd ymateb ambiwlansys
(60 munud)
NDM7779 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oddi tano gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol o hyd at 18 awr.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau mor heriol.
4. Yn cydnabod y pwysau mewn gofal cymdeithasol a sylfaenol a'r sgil-effeithiau ar y gwasanaeth ambiwlans.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.
b) cyflwyno cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, gan gynnwys camau i:
i) sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol digonol;
ii) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb; a
iii) cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai.
c) nodi cynllun ac amserlen glir ar gyfer codi cyflog gweithwyr gofal ledled Cymru.
d) ystyried defnyddio cefnogaeth Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys.
e) ymdrechu'n galetach i recriwtio parafeddygon yn gyflym.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn amgylchiadau mor heriol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac yn bwrpasol;
b) cefnogi ystod o fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;
c) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;
d) gwireddu ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal;
e) parhau i gydweithio â Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a
f) ymdrechu'n galetach i recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.
Os derbynnir gwelliant 1, fe fydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 – Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5
Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn wirioneddol ar lefel genedlaethol
Hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol i'r GIG, gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol eraill ym maes iechyd
7 Dadl Plaid Cymru – Wythnos waith pedwar diwrnod
(60 munud)
NDM7780 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.
2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i heriau'r chwyldro awtomeiddio.
3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.
4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru i archwilio'r manteision i holl weithwyr Cymru, yr economi a'r amgylchedd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar (Clwyd West)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.
Os derbynnir gwelliant 1, fe fydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 – Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd a wneir drwy gynlluniau peilot mewn gwledydd eraill ac archwilio’r gwersi y gall Cymru eu dysgu.
Gwelliant 3 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai cyflogwyr a gweithwyr gytuno ar drefniadau gwaith ac na ddylid gorfodi unrhyw weithwyr na chyflogwyr i fabwysiadu wythnos waith pedwar diwrnod.
Gwelliant 4 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod materion cyflogaeth wedi'u cadw yn ôl i Senedd y DU.
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7774 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Ni yw'r hyn yr ydym yn ei fwyta: canolbwyntio ar ddwysedd maetholion bwyd er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Medi 2021